Mae Llwybr Celf Gyhoeddus newydd sbon Wrecsam yn cyflawni nodau elusennol Ymddiriedolaeth Gymunedol a Diwylliannol Wrecsam o hyrwyddo’r celfyddydau, treftadaeth a diwylliant trwy ddod â gweithiau celf a murluniau bywiog i fywiogi llawer o’r waliau gwag ledled canol y ddinas, gan arddangos diwylliant a threftadaeth gyfoethog ac unigryw Wrecsam.
Mae’r prosiect, a gydlynir gan yr artist Liam Stokes-Massey, o Wrecsam, yn dathlu treftadaeth a diwylliant Wrecsam, gan gynnwys ein marchnadoedd hanesyddol, ein gorffennol diwydiannol ac arwyddocâd chwarae.
Mae 6 safle newydd wedi’u dewis i gyd-fynd â murluniau pêl-droed presennol yn The Fat Boar, Maes Parcio’r Turf, Dôl yr Eryrod a Crispin Lane.